.dechrau (.begin delivered in Welsh)

Course Aim
Cwrs meddwlgarwch 4 sesiwn tair awr o hyd dros 8-wythnos sydd yn eich galluogi i ddysgu meddwlgawrch ac i ddatblygu eich ymarfer.
Dates
23rd May – 4th Jul 2023
Time
9:30yb - 12:30yh
Sessions
Sesiwn 1 -23fed Mai • Sesiwn 2 -6ed Mehefin • Sesiwn 3 - 20fed Mehefin • Sesiwn 4 - 4ydd Gorffennaf • Sesiwn dal i fyny (os oes sesiwn wedi ei ohurio oherwydd salwch yr athro neu band eang yn methu) - 18fed Gorffennaf •
Location
ONLINE
Cost
Arferol: £195 fesul person neu £150 fesul person sydd mewn swydd gydag ysgol a ariennir gan y wladwriaeth neu sydd yn gwirfoddoli’n rheolaidd mewn ysgol a ariennir gan y wladwriaeth.

Click here for the English version of this page

Cwrs meddwlgarwch 4 sesiwn (tair awr o hyd dros 8-wythnos) yw .dechrau sydd yn eich galluogi i ddysgu meddwlgawrch ac i ddatblygu eich ymarfer. (Rydym yn peilot’r arddull yma o ddarparu’r cwrs i’w wneud mor hwylus a phosib i bobl fynychu.  Fel arfer mae’r cwrs yn cael ei ddysgu mewn 8 sesiwn wythnosol o 90 munud o hyd.)  Mae’r cwrs ar gyfer pobl sydd mewn swydd neu sydd yn gweithio o fewn gyd-destun addysgol yn rheolaidd NEU riant neu ofalwr plentyn sydd dal mewn addysg ac sy’n newydd i feddwlgarwch.  Mae’n cyfuno hwylustod o fod yn gwrs ar lein a medrwch gyflawni o gysur eich cartref gydag agosatrwydd darpariaeth gwyneb-wrth-wyneb byw.

Mae yna lawer o ymchwil yn dangos buddion meddwlgarwch i staff ysgol.  Gweler papur Yr Athro Katherine Weare Evidence for Mindfulness: Impacts on the Wellbeing and Performance of School Staff. Mae’r buddiannau adroddir o ymarfer meddwlgarwch  yn cynnwys –

  • Lleihad mewn straen, ‘llosgi-allan’ a phryder
  • Lleihad yn y teimlad o bwysau tasgau a phwysau amser
  • Gwell gallu i reoli meddyliau ac ymddygiad
  • Gwelliant mewn sgiliau ymdopi, cymhelliant, cynllunio a datrys problemau
  • Gwelliant mewn hunan-thosturi a hunanofal

Ar wahân i’r buddion yma gellir y rhai sydd yn gorffen y cwrs .dechrau ac yn mynd ymlaen i ymarfer meddwlgarwch yn rheolaidd am chwe mis hyfforddi’n bellach i ddysgu meddwlgarwch i blant trwy gyflawni un ai Cwrs Teach .b – ar gyfer dysgwyr 11-18 mlwydd oed neu Dysgu Paws b i ddysgu dysgwyr 7-11 oed. (Mae rhain wedi ei gyfeithu.i’r Gymraeg)  Ar gyfer rhagor o wybodaeth  ynglŷn â .dechrau cliciwch yma.

Mae .dechrau yn cael ei ddysgu mewn 4 sesiwn pob pythefnos o tua 180 munud o Ddydd Mawrth 23fed Mai 2023, 9:30yb-12:30yh Bydd yr athro hefyd yn gosod ymarfer cartref o tua 20 munud y dydd.

Gan ei bod yn gwrs ar lein mae’n hanfodol eich bod yn cymryd rhan yn y cwrs

  1. Mewn lle distaw, lle cewch ei adael yn llonydd. Rhywle dydych chi ddim yn rhannu’r cyfrifiadur neu mewn ystafell gyda rhywun arall sydd yn cymryd rhan yn y cwrs ( i osgoi problemau’r sain yn adleisio)
  2. Wedi gwneud yn siwr bod y dechnoleg yn gweithio i’r ansawdd sydd yn eich galluogi chi i gymryd rhan yn llawn. Cyfrifoldeb y chi yw gwneud yn siŵr bod y gofynion technolegol yn gweithio cyn dechrau’r cwrs.
  3. Sylwer bod angen i’r camera bod ymlaen yn ystod y cwrs, oni bai cynghorir fel arall (e.e. yn ystod egwyl)
  4. Rhaid defnyddio PC/laptop/Mac gyda chamera we a band eang rhesymol dda.  Mae pob gwers yn cymryd lle  ar Zoom – gellir gweld anghenion technegol ar gyfer Zoom ar y wefan yma.  Ni ellir ymuno gyda’r cwrs ar ffon symudol neu ddyfais tabled gan nad yw’n addas ar gyfer Zoom.
  5. Cymerwch ran yn y cwrs fel petai ‘n digwydd gyda phawb yn yr un stafell.  Mae hyn yn meddwl camu nôl o wrthdyniadau ar y’ch sylw. (technoleg, gofyniadau gwaith ayyb).  Felly eich bod wedi ymroi yn llwyr ac yn cymryd rhan yn y sesiynau a’r gweithgareddau.
  6. Bod gennych y llyfr – “Meddylgarwch – Canllaw Ymarferol i Ganfod Heddwch Mewn Byd Gorffwyll”Mae’r fersiwn saesneg ar gael fel e-lyfr am o dan £5.

D.S. Os oes rhaid mynychu’r cwrs o’ch gweithle, gwnewch yn siŵr bod eich cymdogion gwaith yn deall eich bod chi ddim ar gael i gyflawni tasgau Gwaith neu gyfrifoldebau gwaith fel goruchwylio disgybl neu fynychu cyfarfodydd.

Os ydych yn cytuno gyda Thelerau ac Amodau ar gyfer archebu a mynychu cwrs .dechrau, plîs cwblhewch y ffurflen gais isod.

Bydd cynnwys y ffurflen yn cael ei drin yn gyfrinachol, ond bydd tîm gweinyddu’r MiSP ac athro’r cwrs yn ei ddarllen.  Rydym yn cymryd preifatrwydd yn ddifrifol iawn a defnyddir eich gwybodaeth bersonol i weinyddu eich cyfrif ac i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau rydych yn gofyn amdano.

Dechreuwch Ffurflen Gais