Nid yw cwricwla MiSP wedi’u cynllunio gyda’r bwriad o gadw at unrhyw feini prawf cwricwla cenedlaethol penodol. Yn hytrach, cânt eu cefnogi gan theori ac ymarfer sydd wedi’u hymchwilio’n dda o feysydd meddylgarwch, niwrowyddoniaeth a dysgu cymdeithasol ac emosiynol.
Fodd bynnag, mae ehangder y dysgu sy’n deillio o’r dulliau hyn yn cyd-fynd yn dda â llawer o agweddau ar gwricwla rhagnodedig a chenedlaethol.
Mae’r Cwricwlwm i Gymru newydd yn enghraifft dda iawn o gyfatebolrwydd o’r fath, yn enwedig mewn perthynas â’r Pedwar Diben, pob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad ac yn fwy penodol y disgrifiadau o ddysgu ar gyfer Maes Dysgu Iechyd a Lles.
Trosolwg - mapio ein cwricwla ar sail y Pedwar Diben a'r Sgiliau Cyfannol
YN OFYNNOL GAN Y CWRICWLWM I GYMRU 2022 | CWRICWLA A DULL MISP |
---|---|
Y pedwar diben: | |
1. Dysgwyr uchelgeisiol a galluog ‘Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau’ | |
2. Mentrus a chreadigol ‘Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith’ | |
3. Dinasyddion egwyddorol a gwybodus ‘Dinasyddion Cymru a’r byd sy’n egwyddorol a gwybodus’ | |
4. Iach a hyderus ‘Unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas’ | |
Sgiliau sy'n hanfodol i'r pedwar diben (Sgiliau cyfannol): | |
Creadigrwydd ac arloesi ‘Dylid rhoi lle i ddysgwyr fod yn chwilfrydig ac yn ymholgar’ ‘Dylen nhw allu adnabod cyfleoedd’ | |
Meddwl yn feirniadol a datrys problemau ‘Dylai dysgwyr gael eu cefnogi i ofyn cwestiynau ystyrlon, ac i werthuso gwybodaeth, tystiolaeth a sefyllfaoedd’ ‘Dylai dysgwyr ddod yn wrthrychol wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau…’ | |
Effeithiolrwydd personol ‘Dylai dysgwyr feithrin deallusrwydd ac ymwybyddiaeth emosiynol, gan ddod yn hyderus ac yn annibynnol’ | |
Cynllunio a threfnu ‘Dylen nhw allu myfyrio ac addasu…’ | |
Pum egwyddor cynnydd • Ehangder a dyfnder gwybodaeth cynyddol • Dyfnhau dealltwriaeth • Mireinio a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth ddefnyddio a chymhwyso sgiliau • Creu cysylltiadau a throsglwyddo'r dysgu i gyd-destunau newydd • Cynyddu effeithiolrwydd | |
Manylu - sut mae meddylgawrch yn sail i Bedwar Diben Cwricwlwm i Gymru
Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau’
Mae meddylgarwch yn cefnogi datblygiad:
- Canolbwyntio a dewis ffocws
- Agweddau cefnogol megis chwilfrydedd, diddordeb ac archwilio
- Ymwybyddiaeth o’r hunan (corff a meddwl a sut mae’r rhain yn cydberthyn)
- Sgiliau perthynol i feithrin cysylltiad ag eraill
- Ymwybyddiaeth metawybyddol (y gallu i “gamu’n ôl” a gweld yr holl brofiadau mewnol ac allanol yn glir)
- Gwybodaeth am yr ymennydd a sut mae gweithrediad yr ymennydd yn llywio ac yn cefnogi ein dysgu
- Ymwybyddiaeth o’r broses o ddysgu a gwerthfawrogi profiadau a dysgu sy’n deillio o’r broses lawn cymaint â’r canlyniadau
- Annibyniaeth ac ymreolaeth
- Perthynas gadarnhaol gyda newid
Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith’
Mae meddylgarwch yn cefnogi datblygiad:
- Cymryd rhan mewn bywyd trwy’r foment bresennol, ymwybyddiaeth synhwyraidd
- Hunanymwybyddiaeth a gwybodaeth ar gyfer adnabod sgiliau a chryfderau
- Gwerthfawrogi gwybod am sefyllfaoedd yn gysyniadol ac yn seiliedig ar brofiad, gan ehangu’r opsiynau sydd ar gael a’r hyblygrwydd
- Strategaethau hunanofal
- Ymwybyddiaeth a pharodrwydd i ddewis pobl, gweithgareddau ac amgylcheddau sy’n eu cefnogi a’u meithrin
- Y gallu i fynegi a chyfathrebu profiad
- Gwrando’n weithredol arnoch chi’ch hun ac eraill
Dinasyddion Cymru a’r byd sy’n egwyddorol a gwybodus
Mae meddylgarwch yn cefnogi datblygiad:
- Ymwybyddiaeth o’r hunan fel bod dynol ac unigolyn
- Y gallu i ymateb o ymwybyddiaeth (o’ch hunan ac eraill) yn hytrach nag ymateb fel arfer, yn enwedig pan fo profiad yn heriol.
- Cysylltiad â’r hunan, eraill a lle.
- Cysylltiad â’r hunan, ag eraill ac â lle.
- Cydnabod profiadau sy’n cefnogi lles (yn bersonol ac fel bod dynol)
- Tosturi, caredigrwydd, empathi a gwerthfawrogiad sy’n ein galluogi i ffynnu a dyfnhau ein cysylltiad ag eraill a’n dealltwriaeth ohonynt
Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Mae meddylgarwch yn cefnogi datblygiad:
- Ymgysylltiad llawn a gwell â phrofiad trwy ymwybyddiaeth, a deall y rhyng-gysylltiad rhwng meddyliau, emosiynau a synhwyrau corff
- Strategaethau hunanofal a adeiladwyd ar sail ymwybyddiaeth o’r foment bresennol a hunan-wybodaeth a ddatblygwyd o fod yn bresennol mewn profiad (corfforol ac emosiynol)
- Hyder yn y canfyddiad bod profiad yn “wir”, yn werthfawr ac yn ddibynadwy
- Agweddau sy’n cefnogi chwilfrydedd chwareus a pharodrwydd i ddatblygu strategaethau cadarnhaol a phriodol er mwyn byw’n dda
- Sgiliau perthynol yn helpu i adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol cryf
- Ymwybyddiaeth o eraill a sut y gallai eu hemosiynau a’u profiadau effeithio arnynt
- Goddef trallod yn ogystal â’r gallu gwell i ddewis cymryd camau er mwyn cynnal eu hunain
- Empathi, caredigrwydd a thosturi tuag atoch chi’ch hun ac eraill
- Dyfeisgarwch a gwytnwch trwy strategaethau hunan-gyfeiriedig a cheisio cefnogaeth gan eraill fel y bo’n briodol
Manylu – mapio gwersi MiSP yn benodol ar gyfer y Chwe Maes Dysgu
Y 6 MAES DYSGU A PHROFIAD | |||
---|---|---|---|
1. Y Celfyddydau Mynegiannol | |||
‘Datblygu gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd fydd o gymorth i ddysgwyr ddal ar bob cyfle fydd yn codi yn eu bywydau, gan wynebu’r heriau.’ | GWERS 2: Gwneud dewisiadau; Lle GWERS 5: Sylwi ar y siglo; GWERS 7: Gweithio gydag anhawster. | GWERS 3: Adnabod pryder; GWERS 4: Bod yma nawr | GWERS 2: Gweithio gydag anhawster. |
‘Cynnau diddordeb dysgwyr yn gorfforol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol gan feithrin eu lles, eu hunan-barch a’u gwydnwch.’ | GWERS 6: Canfod man cadarn; GWERS 11: Meithrin hapusrwydd. | GWERS 5: Symud yn feddylgar; .b2 GWERS 4: Canfod datrysiad. | GWERS 1: Hyfforddi ci bach. |
‘Archwilio, mireinio a chyfathrebu syniadau gan feddwl yn greadigol a defnyddio’r dychymyg a’r synhwyrau.’ | GWERS 4: Meddylgarwch bob dydd; GWERS 9: Y meddwl sy’n dweud straeon | GWERS 1: Chwarae â sylw; GWERS 2: Dofi meddwl yr anifail. | GWERS 4: Bod gydag eraill |
2. Iechyd a Lles | |||
‘Datblygu cymhelliant, gwydnwch ac empathi’r dysgwyr, ynghyd â’u gallu i wneud penderfyniadau.’ | GWERS 1: Ein hymennydd anhygoel; GWERS 2: Gwneud dewisiadau. | GWERS 6: Camu’n ôl; GWERS 7: Bod yn gyfaill i’r hyn sy’n anodd. | GWERS 2: Gweithio gyda phryder. |
‘Deall a gwerthfawrogi sut mae’r ymdeimlad o berthyn a chyswllt a ddaw o berthnasau iach yn cael effaith bwerus ar iechyd a lles.’ | GWERS 11: Meithrin hapusrwydd; GWERS 12: Cael blas ar y pethau da. | GWERS 8: Ystyried y da; .b2 GWERS 4: Canfod datrysiad. | GWERS 4: Bod gydag eraill |
‘Datblygu arferion gwybodus, cadarnhaol sy’n eu hannog i warchod, yn ogystal â pharchu eu hunain ac eraill.’ | GWERS 7: Gweithio gydag anhawster; GWERS 8: Dewis eich llwybr. | .b2 GWERS 2: Ail-weirio’r ymennydd; .b2 GWERS 3: Ti a dy ddyfais. | GWERS 4: Bod gydag eraill |
‘Cefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol eraill.’ | GWERS 11: Meithrin hapusrwydd; GWERS 12: Cael blas ar y pethau da. | GWERS 8: Ystyried y da; .b2 GWERS:4: Canfod datrysiad. | GWERS 4: Bod gydag eraill |
‘Datblygu strategaethau sydd o gymorth iddyn nhw reoli eu hemosiynau, gan gyfrannu tuag at iechyd meddwl a lles emosiynol cadarnhaol.’ | GWERS 7: Gweithio gydag anhawster; GWERS 8: Dewid eich llwybr. | GWERS 2: Dofi meddwl yr anifail; GWERS 4: Bod yma nawr. | GWERS 2: Gweithio gyda phryder; GWERS 3: Myfyrdod amser gwely |
3. Y Dyniaethau | |||
‘Archwilio’r profiad dynol yn eu hardal eu hunain a gweddill Cymru, yn ogystal ag yn y byd ehangach. | GWERS 1: Ein hymennydd anhygoel. | GWERS 8: Ystyried y da; GWERS 4: Bod yma nawr. | GWERS 4: Bod gydag eraill |
‘Myfyrio ar effaith eu gweithredoedd a gweithredoedd pobl eraill.’ | GWERS 2: Gwneud dewisiadau. | .b2 GWERS 2: Ail-weirio’r ymennydd; .b2 GWERS 3: Ti a dy ddyfais | GWERS 4: Bod gydag eraill |
4. Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu | |||
‘Cynnig cyfleoedd i ddysgwyr brofi ieithoedd, yn ogystal â delweddau, mewn ystod o ffurfiau a genres.’ | Ym mhob gwers, gan gynnwys defnyddio clipiau ffilm, sioeau sleidiau a thraciau sain. Mae dadansoddiadau o'r rhain yn digwydd trwy daflenni gwaith, trafodaethau dosbarth cyfan a grŵp bach. | Ym mhob gwers, gan gynnwys defnyddio clipiau ffilm, sioeau sleidiau a thraciau sain. Mae dadansoddiadau o'r rhain yn digwydd trwy daflenni gwaith, trafodaethau dosbarth cyfan a grŵp bach. | Ym mhob gwers, gan gynnwys defnyddio clipiau ffilm, sioeau sleidiau a thraciau sain. Mae dadansoddiadau o'r rhain yn digwydd trwy daflenni gwaith, trafodaethau dosbarth cyfan a grŵp bach. |
‘Cyfleoedd i ddysgwyr siarad ac ysgrifennu er mwyn iddyn nhw fod yn effeithiol wrth ryngweithio, archwilio syniadau, mynegi safbwyntiau, gwybodaeth a dealltwriaeth a meithrin perthynas ag eraill’ | Ym mhob gwers, gan gynnwys defnyddio clipiau ffilm, sioeau sleidiau a thraciau sain. Mae dadansoddiadau o'r rhain yn digwydd trwy daflenni gwaith, trafodaethau dosbarth cyfan a grŵp bach. | Ym mhob gwers, gan gynnwys defnyddio clipiau ffilm, sioeau sleidiau a thraciau sain. Mae dadansoddiadau o'r rhain yn digwydd trwy daflenni gwaith, trafodaethau dosbarth cyfan a grŵp bach. | Ym mhob gwers, gan gynnwys defnyddio clipiau ffilm, sioeau sleidiau a thraciau sain. Mae dadansoddiadau o'r rhain yn digwydd trwy daflenni gwaith, trafodaethau dosbarth cyfan a grŵp bach. |
5. Mathemateg a Rhifedd | |||
‘Rheoli data a chynrychioli gwybodaeth yn effeithiol.’ | GWERS 1: Ein hymennydd anhygoel. | Cyflwyniad; GWERS 1: Chwarae â sylw. | |
‘Cymhwyso a chysylltu hyfedredd rhifedd mewn ystod o gyd-destunau bywyd go iawn.’ | GWERS 3: Adnabod pryder. | ||
6. Gwyddoniaeth a Thechnoleg | |||
‘Sylwi ar amrywiaeth pethau byw, a sut maen nhw’n ymwneud â’u hamgylchedd. | GWERS 3: Hyfforddi ci bach; GWERS 4: Meddylgarwch bob dydd. | GWERS 8: Ystyried y da. | GWERS 4: Bod gydag eraill |
‘Deall sut mae’r rhain wedi esblygu dros gyfnodau sylweddol o amser.’ | GWERS 7: Gweithio gydag anhawster; GWERS 8: Dewis eich llwybr. | GWERS 7: Dod yn gyfaill i’r hyn sy’n anodd. | GWERS 2: Gweithio gyda phryder. |
‘Mae angen amodau ac adnoddau penodol ar bob peth byw er mwyn goroesi, a gall fod yn rhaid iddyn nhw gystadlu ag organebau eraill er mwyn gwneud hynny.’ | GWERS 11: Meithrin hapusrwydd; GWERS 12: Cael blas ar y pethau da. | GWERS 8: Ystyried y da. | GWERS 2: Gweithio gyda phryder; GWERS 4: Bod gydag eraill |
Manylu – sut y gall meddylgarwch gefnogi’r 'HYN SY’N BWYSIG’ ar gyfer Iechyd a Lles
Gall meddylgarwch ein helpu ni i:
- Ddod yn fwy ymwybodol o’n corff, gan adnabod ei negeseuon a datblygu sgiliau i weithredu’n briodol ar yr arwyddion hyn er mwyn cefnogi ein hunanofal a’n lles
- Dod yn ymwybodol o ryng-gysylltiad ein corff, ein meddyliau a’n hemosiynau a datblygu sgiliau i adnabod y dylanwadau hyn, gan eu cymryd i ystyriaeth yn ein dewisiadau a’n perthynas ag eraill
- Datblygu ein hymwybyddiaeth a’n parodrwydd i ddewis pobl, gweithgareddau ac amgylcheddau sy’n ein cefnogi a’n meithrin
Mae sut rydym yn prosesu ac yn ymateb i’n profiadau yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol
Gall meddylgarwch ein helpu ni wneud y canlynol:
- Datblygu ymwybyddiaeth o sut mae ein meddyliau, ein hemosiynau a theimladau’r corff yn effeithio ar ein canfyddiadau, ein gweithredoedd a’n penderfyniadau, gan ein helpu i ddeall sut mae’r cysylltiadau hyn yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol
- Datblygu ein hymwybyddiaeth o’r meddyliau, emosiynau a theimladau’r corff sy’n deillio o’n profiadau bywyd wrth iddynt ddigwydd, gan ein helpu i fyfyrio ar eu heffaith ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol
- Rhoi’r ddealltwriaeth, y sgiliau a’r technegau i ni i’n galluogi i hunanreoleiddio a lle bo’n briodol, i gyfathrebu ein teimladau
- Annog agweddau cefnogol megis chwilfrydedd, diddordeb ac archwilio
- Datblygu ymwybyddiaeth fetawybyddol, gallu “camu’n ôl” ac arsylwi ar ein profiad mewnol ac allanol yn hytrach na chael ein hysgubo ganddo, gan ein helpu i ymdopi a hunanreoleiddio
- Datblygu ein hymwybyddiaeth, ein dealltwriaeth a pherthynas newydd gyda’r ystod lawn o brofiadau dynol
- Defnyddio ein hymwybyddiaeth a’n dealltwriaeth i’n helpu i wneud dewisiadau priodol yn ein bywydau a’n profiadau
- Datblygu ymwybyddiaeth ac empathi mewn perthynas ag effaith ein meddyliau, ein teimladau a’n gweithredoedd ar eraill yn ogystal ag arnom ein hunain, gan gryfhau ein cysylltiad â’r rhai o’n cwmpas
Mae ein penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau a bywydau pobl eraill
Gall meddylgarwch ein helpu ni wneud y canlynol:
- Cynyddu ein canolbwyntio, gan ddatblygu ein sgiliau o ddewis wrth gyfeirio ein sylw
- Datblygu’r ymwybyddiaeth a’r hyder i wneud dewisiadau yn y bobl, y gweithgareddau a’r amgylcheddau sy’n ein cefnogi a’n meithrin
- Datblygu ein hymwybyddiaeth o gyflwr meddwl a chorff pobl eraill a sut y gallai eu hemosiynau a’u profiadau effeithio arnom ni yn ogystal â nhw eu hunain
- Defnyddio ein hymwybyddiaeth ohonom ein hunain ac eraill i gefnogi ein cyfranogiad mewn trafodaethau a phenderfyniadau grŵp
- Datblygu mwy o oddefgarwch tuag at anawsterau y gallem eu profi yn ogystal â’r gallu gwell i ddewis gweithredu er mwyn cynnal ein hunain
- Cynyddu ein hyder yn y canfyddiad o brofiad fel un sy’n “wir”, sy’n cael ei werthfawrogi ac y gellir ymddiried ynddo
- Datblygu agweddau sy’n cefnogi chwilfrydedd chwareus a pharodrwydd i ddatblygu strategaethau cadarnhaol, priodol ar gyfer byw’n dda
- Sefydlu perthynas gadarnhaol gyda newid, gan ddod â meddwl agored, chwilfrydedd a diddordeb i brofiadau newydd
- Cynyddu ein hymwybyddiaeth o’r hunan ac eraill a chefnogi gwneud penderfyniadau, yn cynnwys ein hymagwedd at risg a’n dealltwriaeth o effaith penderfyniadau a chamau gweithredu arnom ni ac eraill
Mae sut rydym yn ymgysylltu â gwahanol ddylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydym ni ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles
Gall meddylgarwch ein helpu ni wneud y canlynol:
- Gwella ein hymwybyddiaeth o’n hunain fel bodau dynol ac unigolion, gan gefnogi annibyniaeth ac ymreolaeth
- Datblygu ein hymwybyddiaeth a’n derbyniad o wahaniaethau, gwerthoedd ac agweddau ein hunain ac eraill gyda chwilfrydedd a charedigrwydd
- Datblygu’r gallu i ymateb o ymwybyddiaeth (o’ch hunan ac eraill) yn hytrach nag ymateb fel arfer, yn enwedig pan fo profiad yn heriol
- Cynyddu ein hymdeimlad o gysylltiad â ni ein hunain, ag eraill ac â lle, a pharch at gysylltiadau eraill
- Cydnabod profiadau sy’n cefnogi lles (yn bersonol ac fel bod dynol) a’r rhai nad ydynt
- Datblygu dyfeisgarwch a gwytnwch trwy strategaethau hunan-gyfeiriedig a cheisio cefnogaeth gan eraill fel y bo’n briodol
- Deall bod profiadau unigol yn llywio ymatebion arferol i ni ein hunain ac eraill ac yn darparu sgiliau a thechnegau i’n helpu i ymateb yn hytrach nag adweithio
- Datblygu ymwybyddiaeth o effaith ein hymddygiad, gwerthoedd ac agweddau ar eraill nad ydynt efallai’n eu rhannu a chymhwyso’r ddealltwriaeth hon i’n hymddygiad ein hunain
Mae perthnasoedd iach yn hanfodol i’n lles
Gall meddylgarwch ein helpu ni wneud y canlynol:
- Datblygu sgiliau perthynol er mwyn adeiladu ar ein cysylltiad ag eraill
- Ymwybyddiaeth o feddyliau, emosiynau a theimladau’r corff sy’n deillio o’n cysylltiadau ag eraill a’r gallu i wneud penderfyniadau sy’n cefnogi ein lles
- Datblygu ein gallu i ddeall ein meddyliau, ein teimladau a’n gweithredoedd ein hunain mewn perthynas ag eraill a chyfathrebu’r rhain pan fo’n briodol
- Datblygu gwrando meddylgar i’n galluogi i ddeall a pharchu teimladau ac anghenion eraill
- Ymwybyddiaeth a pharodrwydd i ddewis pobl, gweithgareddau ac amgylcheddau sy’n ein cefnogi a’n bwydo
- Cydnabod pan na fydd perthnasoedd a phrofiadau yn ein cefnogi neu’n bwydo o bosibl, a datblygu’r gallu i wneud dewisiadau i gefnogi ein llesiant
- Datblygu empathi, caredigrwydd a thosturi tuag atoch chi’ch hun ac eraill.
Mapio meddylgarwch yn ehangach o fewn y Cwricwlwm i Gymru
Mae nodau cyffredin meddylgarwch mewn addysg yn cynnwys datblygu sgiliau a dealltwriaeth sy’n cefnogi myfyrwyr yn y ffyrdd canlynol (gweler y prif Becyn Cymorth Meddylgarwch am fanylion):
- Ymdopi
- Cysylltu
- Ffynnu
- Grymuso newid
Mae’r nodau hyn yn llinyn cyffredin drwy’r pedwar diben, sef y man cychwyn a’r dyhead ar gyfer yr holl ystyriaethau eraill yn natblygiad y Cwricwlwm Newydd.
Mae ymdopi, cysylltu, ffynnu a grymuso newid hefyd yn cael eu cynrychioli’n gryf yn y disgrifiadau dysgu, ac erbyn cam cynnydd 5 mae’r disgrifyddion yn ymdrin â phob un o bedwar nod meddylgarwch.