Iechyd a lles wrth wraidd dysgu yng Nghymru

Mae nifer yr athrawon y mae MiSP yn eu hyfforddi i addysgu ein cwricwla Paws b a .b yn tyfu ar gyfradd uwch yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. O’r 20,855 o ysgolion cynradd y wladwriaeth yn y DU, dim ond 6% (1,261) sydd yng Nghymru, ac o 4,209 o ysgolion uwchradd y wladwriaeth yn y DU, dim ond 5% (208) sydd yng Nghymru. Felly roeddem yn meddwl tybed pam y gallai hynny fod…

Cefndir

Yn y DU, mae addysg yn fater datganoledig. Yng Nghymru, mae’r Adran Addysg a Sgiliau (AAaS) yn gyfrifol am addysg, hyfforddiant a gwasanaethau plant, ac yn adrodd i Lywodraeth Cymru. Yn 2014 comisiynodd yr AAaS adolygiad o’r cwricwlwm ac asesu yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael ag ansawdd amrywiol yr addysgu a’r safonau mewn addysg a nodwyd gan Estyn (sy’n cyfateb i Ofsted yng Nghymru). Cyhoeddwyd yr adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ ym mis Chwefror 2015 a oedd yn argymell ailwampio radical ar gwricwlwm cenedlaethol Cymru.

Y cwricwlwm newydd ar gyfer 2022

Eleni, mae’r AAaS wedi cyhoeddi cwricwlwm newydd sydd wedi’i gynllunio i wneud dysgu’n fwy seiliedig ar brofiad ac i gefnogi plant a phobl ifanc i fod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu gydol eu hoes
  • gyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae eu rhan yn eu bywyd a’u gwaith
  • ddinasyddion egwyddorol a gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach a hyderus, sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae’n cynnwys chwe Maes Dysgu a Phrofiad:

  • Y Celfyddydau mynegiannol.
  • Iechyd a lles.
  • Y Dyniaethau (gan gynnwys AG a ddylai barhau’n orfodol hyd at 16 oed).
  • Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu (gan gynnwys y Gymraeg, a ddylai barhau’n orfodol hyd at 16 oed, ac ieithoedd tramor modern).
  • Mathemateg a rhifedd.
  • Gwyddoniaeth a thechnoleg.

Bydd y cwricwlwm yn mynd yn ‘fyw’ yn 2022, ac mae ysgolion yng Nghymru bellach yn ceisio cynllunio sut y byddant yn ei roi ar waith a’r hyn y mae’n ei olygu iddynt.

Iechyd a Lles

Am y tro cyntaf, mae iechyd a lles yn cael ei gydnabod yn y cwricwlwm cenedlaethol fel maes dysgu craidd. Nod y maes dysgu hwn yw cefnogi dysgwyr i ddatblygu a chynnal nid yn unig eu hiechyd corfforol a’u lles, ond hefyd eu hiechyd meddwl a’u lles emosiynol, yn ogystal â datblygu perthnasoedd cadarnhaol mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Er mwyn galluogi hyn, bydd yn meithrin gallu dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd a’u lles a hefyd i ymgysylltu’n feirniadol ag ystod o ddylanwadau cymdeithasol a allai effeithio ar eu gwerthoedd a’u hymddygiad. Nid yw’n syndod bod ysgolion, addysgwyr a chymunedau’n cydnabod y bydd addysgu meddylgarwch i blant a phobl ifanc yn bodloni’r nodau hyn ac yn cryfhau’r modd y maent yn cyflwyno’r maes dysgu hwn.

MiSP yng Nghymru

Rydym yn hynod ffodus i gael rhwydwaith gwych o hyfforddwyr ac athrawon MiSP (wedi eu hyfforddi i addysgu .b a Paws b) yng Nghymru eisoes, sy’n hyrwyddo meddylgarwch mewn ysgolion. Rydym wedi gweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i gynnal cyrsiau hyfforddi grŵp ar gyfer eu hathrawon, ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu mentrau fel hyn gyda chynghorau a chonsortia eraill.

O ystyried y newidiadau sydd ar ddod yn y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru, rydym yn rhagweld y bydd mwy a mwy o ysgolion Cymru yn ymroi i’n dull gweithredu ysgol gyfan ac yn sylweddoli’n gynyddol werth addysgu meddylgarwch i’w staff a’u plant. Mae ein cwricwlwm .b wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg a bydd cyfieithiad Paws b ar gael yn yr hydref, gan ddiwallu anghenion ysgolion Cymraeg eu hiaith hefyd. Byddwn yn anelu at gyhoeddi canllawiau i ysgolion yng Nghymru ar sut y gall cwricwla a hyfforddiant MiSP gefnogi sut maent yn gweithredu’r cwricwlwm newydd.

Rydym yn annog athrawon Cymru i ddechrau eu teithiau meddylgarwch eu hunain, trwy .begin, ac i ddod ar hyfforddiant er mwyn addysgu ein cwricwla.